Amser gwely (Addas ar gyfer 3-5)
Efallai y bydd y canlynol yn help i chi:
-
Meddyliwch am amseru. Os yw’ch plentyn yn cymryd amser maith i syrthio i gysgu, efallai eich bod chi’n ei roi yn y gwely’n rhy gynnar. Os yw’ch plentyn wedi cyffroi gormod i gysgu, efallai eich bod chi’n ei roi yn y gwely’n rhy hwyr.
-
Sefydlwch drefn amser gwely. Gwnewch yr un peth yr un amser bob nos – diod a byrbryd (heb siwgr) – bath - pyjamas – golchi dannedd – darllen stori – diffodd y golau. Penderfynwch pa drefn sy’n gweithio orau i’ch teulu chi.
-
Dywedwch wrth eich plentyn ei bod hi bron yn amser gwely. “Pan fyddwn ni wedi gorffen y gêm hon, bydd hi’n amser gwely”.
-
Ceisiwch osgoi gormod o gyffro cyn amser gwely. Ceisiwch osgoi chwarae swnllyd neu wyllt neu weithgareddau sgrin megis teledu, cyfrifiaduron, llechi neu ddyfeisiau llaw eraill. Gadewch y rhain y tu allan i’r ystafell wely pan fydd hi’n amser gwely.
-
Gofalwch fod eich plentyn wedi gwneud popeth a all achosi iddo alw allan yn ddiweddarach. Ydy e wedi cael diod? Ydy e wedi mynd i’r toiled? A oes ganddo ei hoff dedi?
-
Rhowch rywbeth diogel iddo fynd i’r gwely gydag ef megis tedi neu flanced. Gadewch olau nos ymlaen neu gadewch y drws yn gilagored. Yna lapiwch y plentyn yn ei ddillad gwely a dywedwch nos da.
-
Peidiwch â mynd i mewn i’w ystafell os yw’n galw allan oni bai eich bod chi’n credu ei fod angen rhywbeth. Dylech ond fynd i mewn os ydych chi’n credu bod eich plentyn angen eich help neu fod rhywbeth o’i le.
-
Os yw’ch plentyn yn codi allan o’r gwely byth a hefyd. Ewch â’ch plentyn yn ôl i’r gwely mewn ffordd dyner a thawel, heb siarad ag ef, heb wneud cyswllt llygaid a heb ei ddwrdio. Gwnewch hyn gymaint o weithiau ag sydd angen hyd nes y bydd eich plentyn yn aros yn y gwely. Efallai y bydd rhaid i chi fod yn amyneddgar iawn.
-
Os bydd eich plentyn yn mynd i’r gwely’n ddiffwdan, cofiwch ei ganmol neu ei wobrwyo fore trannoeth.
Os yw’ch plentyn yn deffro yn aml yn ystod y nos, ceisiwch weithio allan pam mae’n deffro:
- Ydy e eisiau bwyd? Os yw’ch plentyn dros flwydd oed, efallai y byddai’n help i chi roi ychydig o rawnfwyd a llaeth iddo cyn mynd i’r gwely.
- Ydy e’n ofni’r tywyllwch? Gadewch olau nos ymlaen yn ei ystafell neu gadewch olau ar ben y grisiau.
- Ydy e’n deffro oherwydd breuddwydion cas? Ceisiwch weithio allan a oes rhywbeth yn ei boeni.
- Ydy e’n rhy boeth neu’n rhy oer? Gwiriwch dymheredd yr ystafell neu rhowch flanced ychwanegol drosto neu tynnwch flanced oddi arno i weld a fydd hynny’n helpu.
Mae hunllefau yn gyffredin ymhlith plant rhwng 18 mis a thair oed. Efallai fod eich plentyn yn poeni am rywbeth neu efallai fod rhaglen deledu neu stori wedi codi ofn arno. Cysurwch eich plentyn a thawelwch ei feddwl.
Os ydych chi’n poeni am gwsg eich plentyn, gofynnwch i’ch ymwelydd iechyd neu’ch meddyg teulu.
Dyma rhai adnoddau i lawrlwytho i'ch cefnogi chi:Mae ymchwil yn dangos bod cysgu yn ystod y nos yr un mor bwysig â bwyta’n iach ac ymarfer corff i ddatblygiad plant.

Cyfnodau Anodd ac Ymddygiadau Cyffredin
Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd yn mynd trwy gyfnodau sy’n anodd eu rheoli. Dyma rai syniadau ar sut i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon mwyaf cyffredin sydd gan rieni. Mae pob plentyn yn unigryw, ond efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn helpu.

Rhowch amser iddo
Awgrymiadau ar annog gwell ymddygiad
Dyma pump syniad i’ch helpu chi i ddatblygu perthynas dda gyda’ch plentyn. Bydd y syniadau hyn hefyd yn helpu i annog ymddygiad cadarnhaol, yn hwb i hyder eich plentyn ac yn cefnogi ei ddatblygiad.

Datblygiad eich Plentyn
Rhwng genedigaeth a phump oed, bydd y plentyn yn tyfu a newid yn gyflym iawn. Gall deall mwy am ddatblygiad eich plentyn eich helpu chi i ddeall eich plentyn a’i ymddygiad yn well.
Magu Plant. Rhowch amser iddo.
Mae’r wefan hon wedi’i datblygu gan Lywodraeth Cymru gyda help amrywiaeth o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol. Mae pob plentyn a phob rhiant yn unigryw. Mae’r wefan hon yn rhoi syniadau i rieni fel y gallan nhw wneud penderfyniadau ynglŷn â beth sy’n gallu gweithio i’w plentyn a’r teulu. Mae’n ceisio helpu rhieni i feithrin perthynas gadarnhaol, iach gyda’u plant.