Cyfnodau anodd a cyffredin
Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd yn mynd trwy gyfnodau sy’n anodd eu rheoli neu sy’n peri pryder, er enghraifft, amser gwely ac amser bwyd ac wrth ddysgu’r plentyn i ddefnyddio’r poti. Weithiau, mae plant yn ymddwyn mewn ffyrdd heriol, er enghraifft, yn strancio ac yn cnoi.
Dyma rai pryderon cyffredin sydd gan rieni a syniadau ar sut i fynd i’r afael â nhw. Wrth gwrs, mae pob plentyn yn unigryw, ond efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn help i chi.
Mae yna hefyd wahanol weithwyr proffesiynol y gallech chi siarad â nhw. Bydd gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd fanylion gwasanaethau yn eich ardal. Gallwch chi eu ffonio nhw ar 0300 123 7777. Mae gwefan Pwynt Teulu (Dolen allanol) hefyd yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau yn eich ardal.
05/07/18
Mae pob babi’n crio ac weithiau, mae’n gallu bod yn anodd ymdopi. Crio yw’r unig ffordd mae’ch babi’n gallu dweud wrthych chi beth sydd ei angen arno. Bydd rhoi llawer o gariad a sylw i’ch babi yn eich helpu chi i nesáu ato, a bydd yn dysgu bod y byd yn ddiogel a bydd yn teimlo’n ddiogel.
17/04/18
Mae strancio’n gyffredin iawn ymhlith plant bach a phlant ifanc. Mae’n digwydd pan fydd plant yn rhwystredig ac o dan straen. Mae’n gallu digwydd hefyd pan fydd plant wedi blino ac eisiau bwyd neu os ydyn nhw’n teimlo’n genfigennus, yn ofnus neu’n anhapus.
17/04/18
Mae mynd i siopa yn gallu bod yn brofiad cyffrous i blant, ac yn gyfle iddyn nhw ddatblygu eu sgiliau siarad trwy bwyntio at bethau newydd a diddorol. Weithiau, fodd bynnag, mae plant ifanc yn gallu mynd yn rhwystredig, sy’n gallu gwneud pethau’n anodd i chi.
12/12/17
Mae’r Nadolig yn gyfle gwych i deuluoedd fwynhau treulio amser gyda'i gilydd a chael cyfle i weld ffrindiau a theulu estynedig. Mae’n gyfnod hynod gyffrous i blant hefyd.
17/03/16
Mae'n bwysig dros ben cadw dannedd eich plentyn yn lân ac yn iach ond mae'n gallu bod yn anodd os nad yw'n mwynhau cael brwsio ei ddannedd. Dyma gyngor ynghylch pryd a sut i frwsio dannedd eich plentyn.
19/11/15
Weithiau, bydd eich plentyn yn syrthio i gysgu’n rhwydd ac yn cysgu drwy’r nos. Dro arall, bydd yn ei chael hi’n anodd syrthio i gysgu ac yn deffro yn ystod y nos. Gall trefn amser gwely helpu i leihau problemau amser gwely.
19/11/15
Mae dysgu sut i ddefnyddio’r toiled yn gam mawr i’ch plentyn. Peidiwch â rhuthro pethau. Mae’r rhan fwyaf o blant bach yn barod i ddefnyddio’r poti neu’r toiled pan fyddan nhw rhwng 2 a 3 oed. Gadewch i’ch plentyn ddysgu ar ei gyflymder ei hun.
19/11/15
Mae’n gallu bod yn anodd cael y teulu i gyd i eistedd i lawr i fwynhau pryd o fwyd gyda’i gilydd. Ond mae’n werth yr ymdrech. Mae rhannu prydau bwyd teuluol yn rhoi cyfle i bawb ddal i fyny a mwynhau cwmni ei gilydd. Mae eich gwylio chi ac aelodau eraill o’r teulu yn bwyta gwahanol fwydydd yn gallu
...
19/11/15
Mae amser bath yn gallu bod yn llawer o hwyl ac mae’n helpu’ch plentyn i ymlacio cyn mynd i’r gwely. Fodd bynnag, mae rhai babis a phlant bach ofn y bath, sy’n gallu gwneud pethau’n anodd i chi.
19/11/15
Mae gwlychu’r gwely yn gyffredin iawn ymhlith plant o dan 5 oed. Fel arfer, bydd y broblem hon yn diflannu ar ei phen ei hun.
19/11/15
Mae’r rhan fwyaf o blant yn mynd trwy gyfnod lle byddan nhw’n cnoi plentyn arall neu Mam a Dad. Dydyn nhw ddim yn deall y byddan nhw’n gwneud dolur i rywun. Yn ffodus, dim ond cyfnod fydd e fel arfer.
19/11/15
Yr un fath â babis, mae plant bach yn crio am eu bod nhw eisiau bwyd, wedi blino, yn anghyfforddus neu angen eich sylw. Pan fydd plentyn bach yn gallu siarad, bydd hi’n haws o lawer iddyn nhw ddweud wrthych chi pam eu bod nhw’n crio a beth sydd ei angen arnyn nhw.
13/10/15
Trwy ddysgu’r Rheol Dillad Isaf i’ch plentyn, byddwch chi’n helpu i’w ddiogelu rhag cael ei gam-drin. Mae’n ffordd syml y gall rhieni helpu i gadw eu plant (5-11 oed) yn ddiogel rhag cael eu cam-drin yn rhywiol – heb ddefnyddio geiriau a fydd yn eu dychryn a heb sôn am ryw o gwbl.
Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd yn mynd trwy gyfnodau sy’n anodd eu rheoli. Dyma rai syniadau ar sut i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon mwyaf cyffredin sydd gan rieni. Mae pob plentyn yn unigryw, ond efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn helpu.
Dysgu mwy
Awgrymiadau ar annog gwell ymddygiad
Dyma pump syniad i’ch helpu chi i ddatblygu perthynas dda gyda’ch plentyn. Bydd y syniadau hyn hefyd yn helpu i annog ymddygiad cadarnhaol, yn hwb i hyder eich plentyn ac yn cefnogi ei ddatblygiad.
Gweld awgrymiadau defnyddiol
Rhwng genedigaeth a phump oed, bydd y plentyn yn tyfu a newid yn gyflym iawn. Gall deall mwy am ddatblygiad eich plentyn eich helpu chi i ddeall eich plentyn a’i ymddygiad yn well.
Dysgu mwy
Mae’r wefan hon wedi’i datblygu gan Lywodraeth Cymru gyda help amrywiaeth o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol. Mae pob plentyn a phob rhiant yn unigryw. Mae’r wefan hon yn rhoi syniadau i rieni fel y gallan nhw wneud penderfyniadau ynglŷn â beth sy’n gallu gweithio i’w plentyn a’r teulu. Mae’n ceisio helpu rhieni i feithrin perthynas gadarnhaol, iach gyda’u plant.
Dysgu mwy.